Yn dilyn cam cyntaf ymchwil Calon Treftadaeth y DU, byddwn yn cyflwyno’r canfyddiadau cychwynnol i aelodau’r panel mewn gweminar fer.
Yn y weminar hon ddydd Iau 24 Mawrth am 12pm, fel panelwr Calon Treftadaeth y DU byddwch yn:
- Cael mynediad unigryw i ganfyddiadau’r arolwg a mewnwelediad o flaen y sector ehangach
- Darganfod sut roedd eich ymatebion o gymharu â’ch cyfoedion
- Clywed myfyrdodau gan aelodau staff y Gronfa Treftadaeth a sefydliadau partner
- Cynnig eich adborth ar y canfyddiadau i fwydo i mewn i gam nesaf yr ymchwil
Bydd y siaradwyr yn cynnwys uwch staff o’r Gronfa Treftadaeth a sefydliadau partner, ynghyd â thîm Insights Alliance sy’n darparu Calon Treftadaeth y DU.
Mawr obeithiwn eich gweld yno.