Mae Calon Treftadaeth y DU yn brosiect data a mewnwelediad cydweithredol ar gyfer sector treftadaeth y DU dan arweiniad Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Gyda’n gilydd rydym yn adeiladu panel eang a chynhwysol o’r rhai sy’n gweithio yn y sector treftadaeth. Dros y 12-18 mis nesaf, byddwn yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan y panel hwn i lywio polisi, adferiad ac ailddyfeisio’r sector ar ôl Covid.
Beth fydd ein buddion ni o gymryd rhan yng Nghalon Treftadaeth y DU?
Os byddwch yn cofrestru i gymryd rhan, byddwch yn rhan o banel sydd wrth wraidd y sector, gan fwydo eich barn a rhannu gwybodaeth a fydd yn dylanwadu ar flaenoriaethau ariannu. Byddwch yn derbyn diweddariadau ymchwil rheolaidd ac amserol, sy’n cynnwys mewnwelediad ymarferol a gellir gweithredu arnyn nhw, y byddwch yn gallu eu defnyddio yn eich sefydliad.
Pa fath o sefydliadau fydd yn cymryd rhan?
Rydym am glywed gan unrhyw un sy’n rheoli neu’n cefnogi unrhyw fath o dreftadaeth yn y DU. Mae hynny’n cynnwys elusennau, grwpiau cymunedol, sefydliadau preifat neu fusnesau ac unrhyw un sy’n gweld eu rôl fel cyfrannu at ein treftadaeth amrywiol a chyfoethog. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Calon Treftadaeth y DU, byddwn yn gofyn i chi a ydych yn gweithio gydag un neu fwy o’r mathau canlynol o dreftadaeth:
- Treftadaeth Gymunedol
- Adeiladau Hanesyddol a Henebion
- Diwydiannol, Morol a Thrafnidiaeth
- Diwylliannau ac Atgofion (Treftadaeth Anniriaethol)
- Tirweddau a Natur
- Casgliadau (Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau)
- Cymorth Sector
Ond gwyddom hefyd na fydd pob sefydliad yn ffitio’n daclus i’r categorïau hyn ac y gall weithio ar draws gwahanol feysydd.
A yw fy sefydliad yn gymwys?
Rydym yn chwilio am sefydliadau sy’n cefnogi neu’n rheoli treftadaeth fel rhan o’u rôl a’u diben. Os yw hynny’n eich disgrifio, yna rydych yn gymwys i gymryd rhan ar ran eich sefydliad neu fenter a byddem wrth ein bodd yn eich cael i gymryd rhan. Os ydych yn ansicr neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymhwysedd, cysylltwch â ni.
Pryd fydd yr ymchwil yn digwydd?
Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn cynnal pedwar arolwg. Bydd pob arolwg ar agor am 3-4 wythnos a byddwn wedyn yn adrodd ar y canfyddiadau ac yn bwydo’n ôl i’r panel ymchwil. Bydd y don gyntaf yn cael ei chynnal yn gynnar yn 2022.
Beth fydd angen i mi ei wneud a pha lefel o ymrwymiad sydd ei angen?
Ar gyfer pob pwnc ymchwil, gofynnir i chi lenwi arolwg a fydd yn cymryd tua 20-30 munud. Bydd arolwg newydd yn cael ei ryddhau’n fras bob chwarter, ac nid oes rhaid i chi gymryd rhan ym mhob ton i aros yn rhan o’r panel.
Efallai y bydd gofyn i chi fwydo rhywfaint o ddata am eich sefydliad megis gwybodaeth ariannol sylfaenol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hynny’n wir cyn i chi ddechrau’r arolwg, felly byddwch yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth honno.
Yn gyffredinol, bydd yr arolygon cychwynnol yn canolbwyntio mwy ar gwestiynau am sut y gwelwch y rhagolygon ar gyfer y sector treftadaeth dros y misoedd nesaf, yn hytrach na gwybodaeth ariannol fanwl iawn. Ond yn yr arolwg cyntaf efallai y bydd gofyn i chi fwydo rhywfaint o ddata am eich sefydliad a byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw hyn cyn i chi ddechrau er mwyn i chi allu dod o hyd i’r wybodaeth.
Fel aelod o’r panel ymchwil, cewch eich gwahodd i weminarau a thrafodaethau rheolaidd i edrych ar ganfyddiadau pob ton o ymchwil, a fydd hefyd yn cael eu rhannu drwy adroddiadau, blogiau ac erthyglau.
Pa bynciau fydd yr ymchwil yn ymdrin â nhw?
Rydym am glywed gennych am bynciau sydd fwyaf perthnasol a phwysig yn sector treftadaeth y DU. Mae hyn yn debygol o gynnwys:
- Cydnerthedd sefydliadol
- Iechyd ariannol
- Ymgysylltu â’r cyhoedd
- Profiad diogel o Covid
- Amrywiaeth a chynhwysiant
I rannu eich syniadau ar bynciau ymchwil dylem eu cynnwys, anfonwch e-bost atom.
Pwy sydd orau i gymryd rhan yn fy sefydliad?
I sefydliadau mawr, byddai unrhyw un yn yr uwch dîm rheoli yn addas iawn ar gyfer panel Calon Treftadaeth y DU. Efallai y bydd pynciau penodol sy’n fwy perthnasol i rai aelodau o staff, ac os felly byddwch yn gallu enwebu aelod arall o’ch sefydliad i lenwi’r arolwg.
Os ydych chi’n sefydliad bach ac yn un o’r unig aelodau staff, yna chi yw’r person perffaith i gymryd rhan.