Two women surrounded by flowers at RHS Wisley

Helpwch ni i lunio dyfodol cyllid a strategaeth treftadaeth

Rydym yn datblygu panel ymchwil newydd i rannu barn a gwybodaeth, ac i ddylanwadu ar strategaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i phartneriaid.

Mae Calon Treftadaeth y DU yn brosiect cydweithredol ar gyfer sector treftadaeth y DU a fydd yn cynnal cymuned eang a chynhwysol. Bydd y wybodaeth a rennir drwy Galon Treftadaeth y DU yn helpu i lunio blaenoriaethau strategaeth ac ariannu. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn cael mewnwelediad ymarferol y gallwch ei ddefnyddio yn eich sefydliad.

“Rydym am i’n holl waith yn y Gronfa Treftadaeth gael ei wreiddio ym marn a phrofiad pobl sy’n gweithio ym maes treftadaeth.”

Tom Walters, Pennaeth Ymchwil, Data a Mewnwelediad, Cronfa Treftadaeth

Mae Calon Treftadaeth y DU yn agored i unrhyw un sy’n rheoli neu’n cefnogi unrhyw fath o dreftadaeth yn y DU.

Byddwn yn gofyn i chi am y pynciau sydd fwyaf perthnasol ac yn flaenoriaeth i’r sector, ac yn defnyddio’r canfyddiadau i sbarduno adferiad ac ailddyfeisio ar ôl COVID-19. Mae’r pynciau cychwynnol yn debygol o gynnwys:

  • cydnerthedd sefydliadol 
  • iechyd ariannol 
  • ymgysylltu â’r cyhoedd 
  • profiad diogel COVID-19
  • amrywiaeth a chynhwysiant

Bydd eich adborth yn dylanwadu ar benderfyniadau y Gronfa Treftadaeth, gyda phartneriaid Calon Treftadaeth y DU Historic England, yn ogystal â chydweithwyr eraill gan gynnwys yr Adran dros Dechnoleg Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yr Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon a Cyswllt Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

“Rydyn ni’n gwybod y gall ymateb i arolygon untro fod yn faich. Mae Calon Treftadaeth y DU yn adnodd newydd a fydd yn lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i ddweud eich barn wrthym ac yn caniatáu i chi gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y pynciau rydych am gymryd rhan ynddynt.”

Tom Walters, Pennaeth Ymchwil, Data a Mewnwelediad, Cronfa Treftadaeth