Two children sitting on a bench on top of a hill at Cleeve Hill, Cheltenham

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gofrestru

Yn ystod yr hydref, rydym yn gwahodd pobl – fel chi – i ymuno â phanel Calon Treftadaeth y DU.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gofynnir i chi gwblhau arolwg croeso byr sy’n cymryd llai na phum munud. Bydd y wybodaeth a roddwch yma yn cael ei hailddefnyddio’n awtomatig mewn arolygon yn y dyfodol, er mwyn arbed amser i chi. Bydd hefyd yn ein helpu i sicrhau ein bod yn croesawu sampl gynrychioliadol o’r sector i’r panel. Gallwch ein helpu drwy rannu eich bod wedi ymuno â’r panel ar eich cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnod #CalonTreftadaethyDU

Yna eisteddwch yn ôl, ac arhoswch am wahoddiad i’r arolwg cyntaf gyrraedd eich mewnflwch ddiwedd Ionawr 2022.